skip to main content

Amdanom Ni

Mae Casgliadau MonLife yn wefan chwiliadwy sy’n caniatáu i ddefnyddwyr ddod o hyd i wybodaeth am ddogfennau, mapiau, ffotograffau, celfweithiau, gwrthrychau a mwy sy’n cael eu cadw gan Gyngor Sir Fynwy.

Y pedwar casgliad amgueddfa yw:

Amgueddfa’r Fenni

Castell Cil-y-coed

Amgueddfa Cas-gwent

Amgueddfa Trefynwy

Gellir dod o hyd i wybodaeth am y safleoedd yn www.monlife.co.uk/cy/monlife-heritage/

Ein Casgliadau

Mae gan ein hamgueddfeydd dros 100,000 o eitemau yn ymwneud â hanes Sir Fynwy gan gynnwys gwrthrychau hanesyddol, celfweithiau, ffotograffau a dogfennau.

Mynediad Ar-lein

Er mwyn sicrhau bod y deunydd hwn ar gael i’r cyhoedd ei ddefnyddio, mae wedi’i gatalogio gan staff a gwirfoddolwyr ar y safleoedd.   Mae gwybodaeth yn cael ei hychwanegu’n barhaus at gronfeydd data cyfrifiadurol er mwyn gallu chwilio’n gyflymach ac yn haws.  Mae’r broses hon yn parhau a dim ond cyfran o’n casgliadau sydd ar gael ar hyn o bryd i’w gweld ar-lein.  Parhewch i ymweld â’r safle i weld rhagor o wybodaeth am gasgliadau wrth iddo gael ei ychwanegu.


Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw ymholiad, mae croeso i chi gysylltu â: [email protected]